Yr ydym ni, aelodau o fudiad byd-eang i hyrwyddo Esperanto, yn cyfeirio'r maniffesto hwn at bob llywodraeth, sefydliad rhyngwladol a phob un o ewyllys da; ac yn cyhoeddi ein penderfyniad di-sigl i ddilyn y nodau a osodir allan yma, ac i alw ar bob cyfundrefn ac unigolyn i ymuno â ni i weithio tuag at ein nodau.

Ers dros ganrif y mae Esperanto, a lansiwyd ym 1887 i fod yn iaith i hwyluso cyfathrebu rhyngwladol ac a ddatblygodd yn gyflym yn iaith gyfoethog yn ei hawl ei hunan iawn, wedi bod yn fodd i ddwyn dynion at ei gilydd gan oresgyn ffiniau iaith a diwylliant. Y mae'r amcanion sydd yn ysbrydoli defnyddwyr Esperanto mor bwysig a pherthnasol ag erioed. Nid yw defnyddio ieithoedd cenedlaethol, ar draws yr holl fyd, datblygiadau mewn technoleg cyfathrebu, na datblygiad dulliau newydd o ddysgu ieithoedd yn debyg o greu trefn ieithyddol deg ac effeithiol yn unol â'r egwyddorion canlynol, yr ydym ni yn credu eu bod yn hanfodol.

1. Democratiaeth
Mae unrhyw drefn o gyfathrebu sy'n rhoi braint i rai ar hyd eu oes tra'n mynnu bod eraill yn ymdrechu am flynyddoedd i gyrraedd stad is, yn sylfaenol wrthddemocrataidd. Er nad yw Esperanto rhagor unrhyw iaith arall yn berffaith, y mae'r rhagori ar ieithoedd eraill o safbwynt cydraddoldeb mewn cyfathrebu byd-eang.

Yr ydym yn dal bod anghydraddoldeb ieithyddol yn achosi anghydraddoldeb ym mhob agwedd ar gyfathrebu, hyd yn oed ar lefel ryngwladol.
Mudiad ydym ni dros gyfathrebu democrataidd.

2. Addysg gydwladol
Y mae pob iaith ethnig ynghlwm wrth ddiwylliant, daearyddiaeth a threfn wleidyddol byd siaradwyr Saesneg, a Phrydain a'r Unol Daleithiau yn amlycaf yn eu plith. Mae plentyn sy'n dysgu Esperanto yn dysgu am fyd diffiniau, lle mae pob gwlad yn gartref.

Yr ydym yn dal bod addysg mewn unrhyw iaith ynghlwm wrth ddrychfeddwl neilltuol o'r byd.
Mudiad ydym ni dros addysg ar draws y byd.

3. Addysg effeithiol
Dim ond canran fechan o fyfyrwyr iaith dramor sydd yn rhugl yn yr iaith y maent wedi'i dewis. Mewn Esperanto y mae'n bosibl dod yn rhugl hyd yn oed wrth astudio gartref. Mae amryw o astudiaethau wedi dangos bod Esperanto yn ddefnyddiol fel paratoad i ddysgu ieithoedd eraill. Y mae wedi cael ei hargymell fel conglfaen mewn cyrsiau am ymwybyddiaeth ieithyddol.

Yr ydym yn dal y bydd anawsterau dysgu ieithoedd ethnig yn parhau'n rhwystr i lawer o fyfyrwyr y byddai gwybod ail iaith o fudd iddynt. Mudiad ydym ni dros ddysgu ieithoedd yn effeithiol.

4. Amlieithrwydd
Y mae cymdeithas Esperanto bron yn ddigymar fel cymdeithas fyd-eang y mae ei haelodau naill ai'n ddwyieithog neu'n amlieithog. Y mae pob aelod o'r gymdeithas wedi gwneud ymdrech i ddysgu o leiaf un iaith dramor i safon cyfathrebu. I lawer ohonynt, y mae hyn yn arwain at gariad a gwybodaeth o lawer o ieithoedd ac yn ehangu eu gorwelion personol.

Yr ydym o'r farn y dylai siaradwyr pob iaith, bach a mawr, gael cyfle i ddysgu ail iaith i safon uchel o gyfathrebu.Mudiad ydym ni a all ddarparu'r cyfle hwnnw i bawb.

5. Hawliau iaith
Y mae rhannu grym yn anghyfartal rhwng ieithoedd yn arwain at anniogelwch ieithyddol parhaol, neu orthrwm ieithyddol uniongyrchol ar ran helaeth o bobl y byd. Mewn cymdeithas Esperanto y mae siaradwyr ieithoedd swyddogol ac answyddogol yn cyfarfod ar fel bodau cydradd yn rhinwedd parodrwydd y naill a'r llall i gymrodeddu. Y mae cydbwysedd hawliau a chyfrifoldebau ieithyddol yn creu llwyfan i ddatblygu a barnu dehongliadau eraill o anghydraddoldeb ac anghytundeb ieithyddol.

Yr ydym yn dal bod gwahaniaethau enfawr mewn grym rhwng ieithoedd yn tangloddio'r gwarantu a fynegwyd mewn llawer dogfen rhyngwladol o driniaieth gyfartal heb sylw o iaith. Mudiad ydym ni dros hawliau iaith.

6. Amrywiaeth ieithyddol
Y mae llywodraethau cenedlaethol yn tueddu i drin yr amrywiaeth eang ieithoedd y byd fel petai'n rhwystr i gyfathrebu ac i ddatblygiad. Mewn cymdeithas Esperanto, sut bynnag, ystyrir amrywiaeth ieithyddol yn ffynhonnell gyson ac anhepgor i gyfoethogiad. O ganlyniad, mae pob iaith, fel pob rhan arall o fywyd, yn gynhenid werthfawr ac yn deilwng o gael ei gwarchod a'i chynnal.

Yr ydym yn dal bod polisïau cyfathrebu a datblygiad nad ydynt wedi'u seilio ar barch ac ymgeledd tuag at holl ieithoedd y byd yn condemnio'r rhan fwyaf o ieithoedd y byd i farwolaeth. Mudiad ydym ni dros amrywiaeth ieithol.

7. Rhyddid dynol
Y mae pob iaith yn rhyddhau ac yn carcharu ei defnyddwyr, yn rhoi'r gallu iddynt i gyfathrebu ymysg ei gilydd ond yn eu rhwystro rhag cyfathrebu ag eraill. A hithau wedi ei chynllunio fel modd hygyrch i gyfathrebu ar draws yr holl fyd, y mae Esperanto yn un o'r cynlluniau mwyaf effeithiol i ryddhau dynoliaeth, un sydd yn anelu at alluogi unigolion i gymryd rhan mewn cymdeithas ddynol, yn ddiogel wreiddiedig yn eu diwylliant lleol a'u hiaith gyffredin ond eto heb eu cyfyngu ganddynt.

Yr ydym yn dal bod dibyniaeth gyfan gwbl ar iaith genedlaethol yn rhwystro hunanfynegiant, cyfathrebu a chymdeithasu. Mudiad ydym ni dros ryddid dynol.